Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
12 Mawrth 2018
SL(5)193 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”). Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff”).
Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn rheoliad 3(2)) i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau. Mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru, mae’r Rheoliadau yn awdurdodi’r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i’r corff hwnnw mewn perthynas â safonau a bennir yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016.
Fel arfer mae rhif yn enw un o gyfres o Offerynnau Statudol yn cyfeirio at y nifer a wnaed yn y flwyddyn benodol. Yn yr achos hwn mae’r rhif yn cyfeirio at y gyfres gyfan o Reoliadau Safonau, yn yr un modd ag y rhifir cyfres o orchmynion cychwyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn defnyddio’r wyddor Gymraeg yn y fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg, oherwydd natur a phwnc y Rheoliadau. Mae’r arddull yma yn wahanol i’r arddull rhifo arferol a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru.
Rhiant-Ddeddf: Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Fe’u gwnaed ar: Dyddiad heb ei nodi
Fe'u gosodwyd ar:Dyddiad heb ei nodi
Yn dod i rym ar: 29 Mehefin 2018